Paratowyd y ddogfen hon gan gyfreithwyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn rhoi gwybodaeth a chyngor i Aelodau’r Cynulliad a'u cynorthwywyr ynghylch materion dan ystyriaeth gan y Cynulliad a'i bwyllgorau ac nid at unrhyw ddiben arall. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a'r cyngor a gynhwysir ynddi yn gywir, ond ni dderbynnir cyfrifoldeb am unrhyw ddibyniaeth a roddir arnynt gan drydydd partïon.

 

This document has been prepared by National Assembly for Wales lawyers in order to provide information and advice to Assembly Members and their staff in relation to matters under consideration by the Assembly and its committees and for no other purpose. Every effort has been made to ensure that the information and advice contained in it are accurate, but no responsibility is accepted for any reliance placed on them by third parties

 

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

The Local Better Regulation Office (Dissolution and Transfer of

Functions, Etc.) Order 2011

 

Nodyn cyngor cyfreithiol

 

Cefndir

 

1.       Ar 10 Ionawr 2012, rhoddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau hysbysiad ynghylch cynnig fel a ganlyn –

“That the National Assembly for Wales agrees that the Secretary of State

should make the Local Better Regulation Office (Dissolution and

Transfer of Functions, Etc) Order 2011 in accordance with the draft laid

in Table Office on 10 January 2012.”

Trafodwyd y Memorandwm gan y Pwyllgor Busnes ar 10 Ionawr ac fe’i cyfeiriwyd at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol er mwyn iddo graffu arno cyn iddo gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn, a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad yw 25 Ionawr 2012. Bwriad y nodyn hwn yw hwyluso’r drafodaeth honno.

 

Y Gorchymyn

 

2.       Fel rhan o’i hadolygiad o gyrff cyhoeddus, penderfynodd Llywodraeth y DU i ddiddymu’r Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol (“y Swyddfa”), a throsglwyddo ei swyddogaethau i’r Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru. Gosodwyd Gorchymyn gerbron Senedd y DU ar 6 Rhagfyr 2011, a bydd yn ddarostyngedig i benderfyniad cadarnhaol yn nau dŷ Senedd y DU.

 

3.       Caiff y Gorchymyn ei wneud o dan bŵer anghyffredin. Sefydlwyd y Swyddfa gan Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 a oedd hefyd, yn adran 18, yn cynnwys pŵer i ddiddymu’r Swyddfa drwy Orchymyn, a throsglwyddo’i heiddo, hawliau a chyfrifoldebau, yn ogystal â’i swyddogaethau, i berson arall.

 

4.       Bydd y Gorchymyn arfaethedig yn trosglwyddo’r staff, eiddo, hawliau a chyfrifoldebau i ofal yr Ysgrifennydd Gwladol. Caiff y swyddogaethau eu trosglwyddo i’r Ysgrifennydd Gwladol hefyd, ac eithrio’r rheini sy’n ymwneud â materion mewn perthynas â Gweinidogion Cymru, a ddiffinnir yn adran 74 o Ddeddf 2008 fel materion yng Nghymru (o fewn ystyr Deddf Llywodraeth Cymru 2006) o ran Gweinidogion Cymru yn arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â hwy. Caiff y swyddogaethau olaf hynny eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn y modd a ddisgrifiwyd ym mharagraff 6 o’r Memorandwm Cydsyniad a gyflwynwyd gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. Mae’n ymddangos, felly, mai’r polisi yw dilyn ffiniau’r drefn ddatganoli bresennol o ran ailddyrannu swyddogaethau’r Swyddfa. Ceir darpariaethau hefyd sy’n ymwneud ag ymgynghori a chydweithio rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru, gan gynnwys gofyniad am femorandwm cyd-ddealltwriaeth o ran gweithio ar y cyd (erthygl 4(3)).

 

Y Memorandwm Cydsyniad

 

5.       Nid Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn ôl yr ystyr a geir yn Rheol Sefydlog 30 yw hwn, gan nad yw’n gysylltiedig â darpariaethau sydd wedi’u cynnwys yn y Bil sydd gerbron Senedd y DU. Fodd bynnag, mae’n debyg i Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gan ei fod yn cynnwys darpariaethau i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol sy’n berthnasol i Gymru am fater sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol hy llywodraeth leol.

 

6.       Fel yr esbonnir ym mharagraff 1 o Femorandwm Cydsyniad y Gweinidog, mae’n deillio o ganllawiau sydd wedi’u cynnnwys yng Nghanllawiau ar Ddatganoli rhif 9, sy’n ehangu cwmpas egwyddor y cymhwysedd deddfwriaethol i welliannau i ddeddfwriaeth sylfaenol a wneir drwy Orchymyn gan Weinidogion y DU. Er nad yw hwn yn bwnc y casglwyd tystiolaeth yn ei gylch yn ystod ymchwiliad diweddar y Pwyllgor i drosglwyddo swyddogaethau i Weinidogion Cymru, mae’n amlwg yn enghraifft berthnasol iawn, ac yn rhywbeth y mae’n bosibl y bydd y Pwyllgor am gyfeirio ato yn ei adroddiad.

 

7.       Er na cheisiwyd cydsyniad mewn perthynas â gorchymyn o’r fath cyn hyn, rhagdybiwyd y byddai’r Pwyllgor yn ystyried categori penodol o orchmynion a wnaed yn San Steffan. Y categori o dan sylw yw gorchmynion drafft a wnaed o dan Rhan 1 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 [Rheol Sefydlog 21.7(iii)]. Y rheswm dros hynny oedd y gallai gorchmynion o dan y Ddeddf honno ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol mewn perthynas â Chymru. Ystyriwyd hi’n briodol, felly, i’r Pwyllgor ystyried y Gorchymyn hwn yn yr un modd, er mwyn llywio ystyriaethau’r Cynulliad am y cynnig hwn. 

 

8.       Gall y Gorchymyn hwn fod yn ‘beilot’ defnyddiol hefyd ar gyfer gorchmynion eraill. Er enghraifft, mae’r Ddeddf Cyrff Cyhoeddus yn cynnwys ystod eang o bwerau sy’n cynnwys diddymu cyrff cyhoeddus a throsglwyddo eu swyddogaethau a’u hasedau ac ati. 

 

Casgliad

 

9.       Argymhellir i’r Pwyllgor ystyried a yw’n fodlon ar y gorchymyn presennol ac a ddysgwyd unrhyw wersi o’r enghraifft hon y dylid eu hystyried yn ei adroddiad.

 

Y Gwasanaethau Cyfreithiol                                                     Ionawr 2012